Diolch am gymryd yr amser i ymweld â'n gwefan... dyma beth sydd angen i chi ei wybod:
Os byddwch yn parhau i bori a defnyddio'r wefan hon, rydych yn cytuno i gydymffurfio gyda a chael eich rhwymo gan y telerau ac amodau defnyddio canlynol, sydd, ynghyd â'n Polisi Preifatrwydd, yn rheoli'r berthynas rhwng Y Cwmni Selsig Traddodiadol Cymreig Cyf, y wefan hon a chi. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran o'r telerau ac amodau hyn, peidiwch â defnyddio'r wefan hon. Mae'r termau 'Y Cwmni Selsig Traddodiadol Cymreig Cyf. ', ' TWSC ', ' TWSC Cyf ', neu ' ni ' yn cyfeirio at berchennog y wefan, mae'r term ' chi ' yn cyfeirio at ddefnyddwyr ein gwefan.
Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus cyn i chi ddechrau defnyddio'r wefan hon, gan y bydd y rhain yn berthnasol wrth ichi ddefnyddio'r safle hwn. Rydym yn argymell eich bod yn gosod llyfrnod ar y dudalen hon er eich cyfeirnod chi yn y dyfodol.
Amdanom ni
www.thewelshbutcher.co.uk yn wefan a weithredir gennym ni, The Traditional Welsh Sausage Company Ltd. Rydym yn gwmni cyfyngedig sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 03699399 a'i gyfeiriad cofrestredig yw: The Traditional Welsh Sausage Company Ltd, 18 High Street, Conwy, Gogledd Cymru, LL32 8DE.
Newidiadau i'r termau hyn ac ein safle
Mae hawl gennym ni adolygu'r telerau defnyddio hyn ar unrhyw adeg drwy ddiwygio'r dudalen hon. Gwiriwch y dudalen hon o bryd i'w gilydd i fwrw golwg ar unrhyw newidiadau , gan eu bod yn rhwymo'r defnyddiwr.
Efallai y byddwn yn diweddaru ein safle o bryd i'w gilydd a gallwn ddewis newid y cynnwys presennol ar unrhyw adeg. Cofiwch, efallai bod unrhyw gynnwys ar ein safle yn hen ar unrhyw adeg benodol, ac nid oes rheidrwydd arnom i'w ddiweddaru. Nid ydym ni, na thrydydd partïon, yn sicrhau y bydd y safle hwn, neu unrhyw gynnwys yma, yn rhydd o wallau neu hepgoriadau.
Mynediad i'n safle
Mae ein safle ar gael yn rhad ac am ddim. Nid ydym yn gwarantu y bydd ein safle na'n cynnwys bob amser ar gael, neu'n ddi-dor, gyda mynediad yn cael ei ganiatáu ar sail dros dro. Efallai y byddwn yn dewis atal, tynnu, terfynu neu newid y cyfan neu unrhyw ran o'n gwefan heb rybudd. Ni fyddwn yn atebol i chi os, am unrhyw reswm, nad yw'r safle ar gael ar unrhyw adeg benodol.
Ysgrifen Copi ac eiddo deallusol
Mae'r wefan hon yn cynnwys deunydd (iau) sy'n eiddo inni, neu sydd wedi'u trwyddedu gennym ni. Mae'r deunydd hwn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu, i'r dyluniad, cynllun, edrychiad, ymddangosiad a graffeg. Nid oes hawl gennych chi ddefnyddio unrhyw ran o'r cynnwys ar ein safle at ddibenion masnachol heb dderbyn trwydded i wneud hynny gennym ni. Mae defnyddio unrhyw wybodaeth neu ddeunydd i'r wefan hon ar eich menter eich hun ac ni fyddwn yn atebol am hyn. Eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod unrhyw wybodaeth, cynnyrch neu wasanaethau sydd ar gael drwy'r wefan yn bodloni eich gofynion penodol.
Cyfyngu ar ein hatebolrwydd
Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod yn sgil firws, ymosodiad gwrthod gwasanaeth, neu ddeunydd arall sy'n niweidiol i dechnoleg a allai heintio eich offer cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data, neu ddeunydd arall oherwydd eich defnydd o'r safle hwn. Neu unrhyw ddifrod ac ati yn sgil lawr lwytho unrhyw gynnwys arno, neu unrhyw wefan sy'n gysylltiedig ag ef. Ni fyddwn yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y wefan a gysylltir ar ein safle ac ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddeillio o'ch defnydd ohonynt. Mae eich defnydd o'r wefan hon ac unrhyw anghydfod sy'n deillio o ddefnydd o'r wefan o'r fath yn amodol ar gyfreithiau Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban.
Er ein bod yn cyflawni pob rhagofal rhesymol, nid ydym yn gwarantu y bydd ein safle yn ddiogel neu'n rhydd o namau neu feirysau. Chi sy'n gyfrifol am osod a defnyddio eich meddalwedd diogelu rhag firysau eich hun.
Cysylltiadau trydydd parti a chysylltu â'n safle
O bryd i'w gilydd, bydd dolenni trydydd parti i wefannau eraill ar y wefan hon. Caiff y gwefannau hyn eu cynnig er hwylustod ichi ac er mwyn darparu rhagor o wybodaeth. Nid ydynt yn dangos bod gwefan(nau) y trydydd parti yn cael eu cymeradwyo, ac nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y gwefan(nau) cysylltiedig.
Efallai y byddwch yn cynnig dolen i'n tudalen gartref, cyhyd â'ch bod yn gwneud hyn mewn ffordd teg a chyfreithlon sydd ddim yn niweidio ein enw da neu yn cymryd mantais o'n enw da. Mae hawl gennym ni wrthod caniatâd rhannu dolenni heb rybudd. Os hoffech chi ddefnyddio unrhyw gynnwys ar y wefan hon, am unrhyw ddibenion heb eu trafod yn y datganiad cyfreithiol, anfonwch e-bost at marketing@edwardsofconwy.co.uk.
Mae eich defnydd o'r wefan hon ac unrhyw anghydfod sy'n deillio o ddefnydd o'r wefan yn amodol ar gyfreithiau Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban.