Efallai eich bod wedi sylwi ar sticer ar ein pecynnau yn ddiweddar. Mae yno i nodi 40 mlynedd ers i Ieuan agor ei siop gigydd am y tro cyntaf yng Nghonwy. Mae llawer wedi newid mewn 40 mlynedd, ond mae gennym yr un parch a gwerthfawrogiad o hyd i'n cwsmeriaid a'r un ddealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen i ddod â'n gorau i chi.
Mae cyrraedd unrhyw garreg filltir yn gyfle i fyfyrio ar y gorffennol, ond hefyd edrych tua'r dyfodol. Rydym yn gwybod, os byddwn yn parhau i ddal ein hunain i'r un gwerthoedd a safonau, yna byddwn yn dal i fod yn creu bwyd sy'n gwneud i'ch calon ganu am lawer mwy o flynyddoedd i ddod.
Crëwyd y fideo isod i helpu i adlewyrchu ein taith hyd yma a lle'r ydym ni nawr, gan edrych i'r dyfodol.



