Mae ein Siop Gigydd Traddodiadol wedi ei henwi'n 'Siop Gigydd y Flwyddyn ' dros Gymru am y 3edd flwyddyn yn olynol!
Mae'r wobr hon yn un o'r anrhydeddau mwyaf ei bri yn ein calendr. "Rydym i gyd mor falch o fod wedi ennill y wobr hon ac mae ei hennill am dair blynedd yn olynol yn llwyddiant ysgubol" eglurodd Terry Elliot, Rheolwr y Siop.
Mae'r Gwobrau'n fodd o gydnabod sgiliau a chyflawniadau diwydiant cigyddiaeth Prydain ac rydym yn falch iawn y cafodd ein Tîm Cigyddiaeth Arbenigol ei gydnabod.
Mae plac newydd sgleiniog wedi ei ychwanegu y tu allan i'r siop ... efallai y gwelwch chi gigydd balch yn rhoi sglein iddo!