Cynhwysion

  • 6 Selsig Porc Traddodiadol
  • 2 lwy fwrdd o fenyn
  • 1/2 bresych coch bach, wedi'i sleisio'n denau
  • 2 lwy fwrdd o siwgr brown
  • 1 afal coch, wedi'i sleisio
  • 3 llwy fwrdd o finegr balsamig
  • 1 llwy de nytmeg
  • 50ml o ddŵr
  • 5 tortilla wraps
  • Jar saws llugaeron
  • 100g o ddail roced
  • 160g brie, wedi'i sleisio

Cyfarwyddiadau coginio

  • Cynheswch y popty i 180°c/Fan 170°c.
  • Mewn padell fawr, toddwch y menyn dros wres canolig ac ychwanegwch y bresych coch yn raddol nes ei fod wedi'i orchuddio â menyn. Ffriwch yn ysgafn am 5 munud.
  • Ychwanegwch y siwgr, afal, finegr a nytmeg. Cymysgwch yn drylwyr cyn gorchuddio a gadael am 15 munud. Ychwanegwch y dŵr a pharhau i fudferwi am 15 munud, gan droi'n aml nes bod y bresych yn feddal.
  • Yn y cyfamser, rhowch y selsig ar hambwrdd popty a'u coginio am 20-25 munud, gan droi hanner ffordd. Tynnwch o'r popty a'i roi i un ochr.
  • Taenwch lwy fwrdd o saws llugaeron ar draws pob tortilla, ac yna llwyaid o fresych coch. Gwasgarwch lond llaw o roced a rhowch dafelli o frie cyn ychwanegu selsig cyfan. Rholiwch i mewn i lapio tynn.
  • Sleisiwch bob lapio yn 4 a sgiwer gyda ffon coctel.
Ydych chi’n hoffi’r rysáit hon?

Beth am roi cynnig ar...