Bacwn ac Wyau Benedict

wyau wedi'u plygu

Bacwn ac Wyau Benedict

Blasus, syml a thrawiadol – perffaith ar gyfer trît arbennig. Mae bacwn ac wyau benedict yn frecwast i’r goreuon, wedi'i baratoi’n fwy arbennig fyth gan ddefnyddio’n bacwn arobryn.

Ein Bacwn Wedi'i Halltu'n Sych a Heb ei Fygu yn cael ei halltu'n draddodiadol â llaw am nifer o ddyddiau ac yna'n cael ei sychu am flas llawn.

O ran porc, dim ond y toriadau gorau o Tractor Coch Porc Prydeinig. Mae hyn yn rhoi blas cigysol i'n cwsmeriaid.

Ar gyfer 4
15munud
478 cals
(Y platiaid)

Cynhwysion

  • 10 Tafell o facwn Edwards sydd Wedi'u Halltu'n Sych
  • 2 myffin wedi'u tafellu a'u tostio
  • 4 ŵy mawr
  • 2 melynwy
  • 1/2 lemwn
  • 100g o fenyn

Cyfarwyddiadau coginio

  • Rhowch y bacwn o dan gril canolig i boeth sydd wedi'i gynhesu ymlaen llaw am 6-8 munud, gan eu troi'n achlysurol.
  • Yn y cyfamser, ewch ati i fudferwi sosban fawr o ddŵr hallt. Craciwch wyau cyfan i mewn i’r cwpanau. Trowch y dŵr cyn gollwng yr wyau i mewn iddo’n ofalus. Coginiwch am oddeutu 2 funud, a sychwch yr wyau ar bapur cegin.
  • I greu'r saws hollandaise; curwch y melynwy gyda’r sudd lemwn a phinsiad o halen. Toddwch y menyn mewn sosban fach ac ychwanegwch y melynwy’n araf deg. Parhewch i chwipio ar wres isel am 3-5 munud nes ei fod yn olau ac yn hufennog.
  • Rhowch ŵy a’r saws hollandaise am ben y myffins wedi'u grilio, yna ychwanegwch facwn am eu pen yn ogystal â garnais i ychwanegu blas.
Ydych chi’n hoffi’r rysáit hon?

Beth am roi cynnig ar...