Quiche Bacwn gyda Chaws a Thomato

quiche bacwn

Quiche Bacwn gyda Chaws a Thomato

Mae'r rysáit quiche bacwn hwn yn bryd blasus bob dydd neu'n ganolbwynt delfrydol ar gyfer bwffe. Defnyddiwch gynhwysion o ansawdd uchel i greu dysgl sy'n flasus o syml ac yn llawn blas.

Ein Bacwn Wedi'i Halltu'n Sych a Heb ei Fygu yn cael ei halltu'n draddodiadol â llaw am nifer o ddyddiau ac yna'n cael ei sychu am flas llawn.

O ran porc, dim ond y toriadau gorau o Tractor Coch Porc Prydeinig. Mae hyn yn rhoi blas cigysol i'n cwsmeriaid.

Ar gyfer 6
120munud
755 cals
(Y platiaid)

Cynhwysion

  • 10 Tafell o Facwn Mwg Derw Edwards wedi’u Halltu’n Sych
  • 5 ŵy mawr wedi'u chwipio
  • 3 tomato, wedi'u torri’n dafelli
  • 100ml o laeth
  • 250g o gaws cheddar, wedi'i gratio
  • 200ml o hufen dwbl
  • 200g o flawd plaen
  • 100g o fenyn, yn ogystal â mwy ar gyfer iro
  • 2 sbrigyn o deim ffres, i roi am ben y quiche

Cyfarwyddiadau coginio

  • I wneud y crwst, hidlwch y blawd a'r halen mewn bowlen fawr. Rhwbiwch y menyn i mewn nes bod y gymysgedd fel briwsion bara meddal. Ychwanegwch 2 lwy fwrdd o ddŵr oer i ffurfio toes cadarn. Lapiwch mewn haenen lynu a rhowch y toes yn yr oergell am 30 munud.
  • Ar arwyneb gydag ychydig o flawd wedi'i wasgaru arno, rholiwch y crwst a'i osod mewn dysgl fflan dwfn 22cm sydd wedi ei iro'n drylwyr. Peidiwch â thorri'r crwst dros ben eto. Gadewch yn yr oergell am 30 munud arall.
  • Cynheswch y popty i 200°C / 180°C Fan /G fel Marc 6. Rhowch ar silff bobi a’i phobi’n wag am 15-20 munud. Gan ddefnyddio cyllell finiog torrwch y crwst sydd dros ben fel bod gennych chi darten daclus.
  • Ewch ati i leihau tymheredd y popty i 180°C /160°C Fan / Marc Nwy 4.
  • Torrwch Facwn Mwg Derw Edwards sydd wedi'u Halltu'n Sych yn ddarnau mân a'u ffrio nes eu bod wedi crimpio, yna sychwch nhw ar bapur cegin. Taenwch y caws dros y sylfaen crwst. Trefnwch y tomatos wedi'u torri’n dafelli ar y caws a gwasgarwch y bacwn am ei ben.
  • Cymysgwch yr wyau, y llaeth a'r hufen mewn powlen ac ychwanegwch ddigon o halen a phupur. Tywalltwch y cymysgedd am ben y bacwn a’r caws. Gwasgarwch ddail teim am ei ben. Pobwch am 40-45 munud nes bod y llenwad yn soled. Bendigedig yn boeth neu'n oer.
Ydych chi’n hoffi’r rysáit hon?

Beth am roi cynnig ar...